Mae’r Ysgol yn frwd i benodi uwch gynorthwyydd gwarchod ar gytundeb hyd at diwedd Awst 2027 yn y lle cyntaf i ymgymryd â rôl o warchod ac arwain dosbarthiadau yn absenoldeb athrawon. Edrychir am ymgeisydd egnïol a hyblyg fydd yn medru ymdopi a’r her o gefnogi athrawon wrth gynllunio ac arwain gwersi yn absenoldeb yr athrawon arferol.
Manylion cyflog - graddfa 5 pwynt 11-19 (£29,099 - £33,151) PRO RATA ar sail 32.5 awr yr wythnos 39 wythnos y flwyddyn (yn aros dyfarniad cyflog diweddaraf)
Croesawir ceisiadau gan athrawon cymwys.
Bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gyd-weithio’n agos gyda staff atodol yr Ysgol i gynnal rhaglen warchod wythnosol a chydweithio’n agos gydag Arweinwyr Pwnc yr Ysgol wrth sicrhau bod disgyblion yn derbyn gwersi priodol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno ag ysgol lwyddiannus sydd wedi ymrwymo i ddatblygu ei staff yn broffesiynol.
Bydd cais yn cael ei wneud i ddatgelu cofnod troseddol y...