🍁 SearchCanadaJobs.com

Uwch Gynorthwyydd Addysgu a Dirprwy Arweinydd Bugeiliol - CA3

Company

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Location

Cardiff, Wales

Type

Full-time

DisgrifiadCyflogwrLleoliad

Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, gofalgar ac ymroddedig i ymuno â'n tîm fel Uwch Gynorthwyydd Addysgu a Dirprwy Arweinydd Bugeiliol (CALU CA3). Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol wrth gefnogi lles, ymddygiad a chynnydd academaidd dysgwyr Cyfnod Allweddol 3 mewn amgylchedd Cymraeg, cynhwysol a chefnogol.

Bydd y deiliad yn gweithio'n agos gyda staff addysgu, arweinwyr bugeiliol, rhieni ac asiantaethau allanol i sicrhau bod pob disgybl yn cael y cymorth angenrheidiol i oresgyn rhwystrau i ddysgu a llwyddo yn yr ysgol. Bydd y rôl yn cynnwys cefnogi dysgwyr unigol a grwpiau bach, cydlynu gwybodaeth bontio, meithrin perthnasoedd cadarnhaol â theuluoedd, a chyfrannu at gynllunio a gweithredu ymyriadau bugeiliol ac addysgol effeithiol.

Rydym yn chwilio am rywun sydd â sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol, sydd yn gallu gweithio fel rhan o dîm ac sy'n meddu ar safonau uchel o ddisgwyliad ar gyfer...

🍁 Ready to Apply?

Take the next step in your Canadian career

Apply Now